Abertawe Amdanom ni
SWYDDOG CYSWLLT TEULUOEDD
Andrea Hill-Jones yw’r Swyddog Cyswllt Teuluoedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Abertawe. Prif swyddogaeth Andrea yw cefnogi rhieni a gofalwyr plant sy’n mynd drwy Asesiad Statudol. Mae’n gweithio ar draws Dinas a Sir Abertawe gan wneud ymweliadau cartref er mwyn egluro’r broses. Bydd hefyd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gan rieni neu ofalwyr ynglŷn ag addysg eu plentyn ac yn cynorthwyo o ran cwblhau unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â’r broses.
Mae gan Andrea wybodaeth helaeth ynglŷn â’r ddarpariaeth sydd ar gael i blant sydd ag anghenion ychwanegol yn Abertawe.
Mae Andrea yn fan cyswllt ac yn ffynhonnell gwybodaeth. Mae ganddi brofiad o weithio gyda rhieni ac asiantaethau eraill i ddatrys problemau ac i sicrhau canlyniadau boddhaol er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol.
Gallwch gysylltu ag Andrea Hill-Jones ar 01792 637541 neu ALNU@swansea.gov.uk
SNAP Cymru
Mae SNAP Cymru’n darparu gwybodaeth a chyngor annibynnol yn rhad ac am ddim i rieni plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae SNAP Cymru’n hybu gweithio partneriaeth effeithiol ac yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod rhieni a phobl ifanc yn cymryd rhan weithgar mewn penderfyniadau ynglŷn â darpariaeth dysgu ychwanegol.
Mae gan SNAP Cymru Farc Ansawdd Arbenigwyr (SQM) sy’n golygu bod ein gwasanaeth yn gweithredu ar y safonau uchaf. Mae gweithwyr achos yn derbyn hyfforddiant cyfreithiol annibynnol o ansawdd da. Maent yn teimlo’n angerddol ynglŷn â helpu pobl i oresgyn rhwystrau, gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad sy’n ateb anghenion teuluoedd.
Y nod allweddol yw ymyrryd yn gynnar er mwyn lleihau’r posibilrwydd o broblemau’n gwaethygu, yn enwedig drwy sicrhau cydweithrediad a phartneriaeth rhwng y teulu, yr ysgol a’r Awdurdod Lleol.
SNAP Cymru: Disgrifiad o’r gwasanaeth a gynigir:
- Cefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (0 – 25)
- Cyngor a chefnogaeth i rieni a gweithwyr proffesiynol trwy linell ffôn gymorth, taflenni ac ar ein gwefan.
- Cyngor ar ddeddfwriaeth, polisi lleol a chenedlaethol ar draws Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, asesiad ADY a darpariaeth, apeliadau a thribiwnlysoedd.
- Cefnogaeth Gwaith Achos, Eiriolaeth Annibynnol a Chyfryngu a hwylusir gan gyfryngwyr achrededig.
- Help i deuluoedd baratoi ar gyfer cyfarfodydd; cyfrannu at asesiadau ac adolygiadau; cyfranogi mewn penderfyniadau ac archwilio opsiynau; herio lle bo angen hynny.
- Datrys anghytundebau
SNAP Cymru: Oriau agor
Dydd Llun – Dydd Gwener, 9.00yb – 4.30yp (Apwyntiadau tu allan oriau swyddfa drwy drefniant)
Llinell gymorth am ddim: 0808 801 0608
Gwefan: www.snapcymru.org
Facebook: www.facebook.com/SNAPCymru
E-bost: enquiries@snapcymru.org