Ceredigion Amdanom ni
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i godi cyflawniad a chau’r bwlch ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag AAA/ADY er mwyn iddynt gyflawni’r canlyniadau, llesiant a chyfleoedd bywyd hirdymor gorau posibl.
Mae’r awdurdod yn credu bod gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gyfrifoldeb ar bawb.
Yn unol â hynny, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, rhieni ac asiantaethau eraill er mwyn sicrhau bod plant Ceredigion i gyd, beth bynnag yw eu hanghenion, yn cael eu gwerthfawrogi, yn profi llwyddiant yn eu dysgu, yn cyflawni eu potensial a’u nodau personol, ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd er mwyn sicrhau bywyd llawn ac ystyrlon.
Gweledigaeth addysgol Ceredigion yw darparu:
- addysg gynhwysol mor agos at y cartref a’r gymuned leol ag y bo modd;
- asesiad cynnar a chywir o anghenion;
- ystod eang, gytbwys a pherthnasol o gyfleoedd dysgu;
- ystod o ddarpariaeth brif ffrwd sy’n eang ac yn arbenigol. Nid oes gennym unrhyw ysgolion arbennig pwrpasol yng Ngheredigion;
- cymorth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd uchel i ysgolion;
- gwybodaeth amserol, gywir a pherthnasol ar gyfer rhieni a gofalwyr;
- adnoddau a gwasanaethau sy’n briodol, yn effeithiol, yn deg, yn dryloyw, yn gyson, yn effeithlon ac yn atebol.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â darpariaeth Ceredigion, dylech gyfeirio at y ddogfen ‘Strategaeth, Polisi a Gweithdrefnau AAA Ceredigion’ sydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion dan Ysgolion ac Addysg – cliciwch yma.