Castell-nedd Port Talbot Amdanom ni
Mae Castell-nedd Post Talbot wedi ymrwymo i gydweithio â Rhieni a Gofalwyr er mwyn helpu i sicrhau’r deilliannau gorau posibl i bob plentyn, yn enwedig y rhai hynny sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Castell-nedd Port Talbot yma i helpu Rhieni a Gofalwyr drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac arweiniad er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn ag addysg eu plant.
Mae’n bosibl i Rieni a Gofalwyr ofyn am gyngor gan yr ystod o staff cymorth y Gwasanaeth Cynhwysiant sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, plant a lleoliadau ysgol, gan gynnwys lleoliadau prif ffrwd ac arbenigol. Mae staff cymorth y Gwasanaeth Cynhwysiant yn cynnwys staff Llesiant ac Ymddygiad, Seicolegwyr Addysgol, Athrawon Arbenigol, Swyddogion Lles Addysg, Therapyddion Iaith a Lleferydd a Therapyddion Galwedigaethol yn ogystal â Swyddogion Cyswllt Rhieni a Gweithwyr Allweddol Pontio.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydym yn anelu at ddatrys unrhyw anghytundebau drwy gydweithio gyda Rhieni a Gofalwyr yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, rydym hefyd yn comisiynu gwasanaethau gan SNAP Cymru sy’n gallu darparu cyngor a chefnogaeth ddiduedd yn ogystal â gwasanaethau cyfryngol yn ôl yr angen. (Gweler isod).