Powys Amdanom ni
Mae arferion cynhwysol wrth wraidd popeth yr ydym yn ceisio’i gyflawni yn Adran ADY a Chynhwysiant Powys. Rydym yn deall fod angen i’r holl bartneriaid dan sylw weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau cynhwysiant. Rydym hefyd yn deall y gall ceisio cael y cyngor a’r gefnogaeth orau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol eich plentyn fod yn amser emosiynol a llawn straen; gall gynnwys nifer o weithwyr proffesiynol o addysg, iechyd a gwasanaethau plant i enwi dim ond rhai, a gall hynny fod yn anodd. Ein dymuniad yw bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad ynglŷn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu plant a’u Pobl Ifanc. Mae’n hanfodol i ni ein bod yn gwrando ar, ac yn ystyried safbwyntiau plant (lle bo hynny’n briodol), pobl ifanc a theuluoedd. Weithiau, mae angen help, cefnogaeth ac arweiniad ar blant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn sicrhau hyn. Rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad mewn sawl ffordd er mwyn gwenud hyn.