Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Sir Benfro
Mae Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Sir Benfro yma i helpu rhieni a gofalwyr plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol trwy roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Rydym yn darparu gwasanaeth a diduedd yn rhad ac am ddim i holl rieni a gofalwyr plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Benfro.
Gall ein tîm o Weithwyr Cymorth Cynhwysiant, sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion ledled rhannau gogledd, de a chanol y sir, gynnig y cyngor, yr wybodaeth a’r cyfarwyddyd sydd eu hangen arnoch er mwyn i chi wneud y dewisiadau iawn ar gyfer eich plentyn.
Hefyd, mae swyddog ar gael i gefnogi llais y plentyn wrth benderfynu ynglŷn â’u darpariaeth arbenigol. Cynigir cefnogaeth hefyd i deuluoedd trwy linell gymorth neu’r wefan hon sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i rieni.
Mae’r Gwasanaethau a Gynigir Gennym yn Cynnwys
- Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddiduedd a chywir.
- Rhywun i wrando ar deuluoedd a thrafod pethau.
- Help i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cymorth.
- Cymorth ymarferol wrth ddelio â llythyrau, llenwi ffurflenni a deall adroddiadau proffesiynol.
- Cefnogaeth barhaus ar adegau anodd.
- Cymorth er mwyn gwneud penderfyniadau deallus ynglŷn ag ysgol a lleoliadau addysgol eraill a darpariaeth gan iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
- Cymorth ar gyfer cynnal cysylltiadau gwaith da gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol.
- Cymorth wrth ddatblygu arferion gwaith da gyda rhieni/gofalwyr.
- Helpu teuluoedd i chwarae rhan weithgar a gwerthfawr yn addysg a datblygiad eu plentyn – rhoi llais i deuluoedd.