Mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth i wneud yn siŵr ein bod yn cael y canlyniadau gorau i’n plant a’n pobl ifanc. Er mwyn gwneud hyn, mae angen ymddiriedaeth, ymrwymiad a pharch. Mae’r adran hon yn edrych ffyrdd o feithrin perthnasoedd effeithiol.
Dewiswch o un o'r adrannau isod i gael gwybod mwy...
Cydweithio mewn Partneriaeth
Mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cael y canlyniadau gorau i’ch plentyn. Dyma fwy o wybodaeth am y gwahanol bartneriaid a allai fod yn rhan o addysg eich plentyn.
Datblygu Partneriaethau Effeithiol
Mae partneriaethau effeithiol yn gofyn am ymrwymiad, ymddiriedaeth a pharch gan bob un o’r partneriaid. Dysgwch fwy am weithio’n effeithiol mewn partneriaeth a sut mae hyn yn helpu eich plentyn i gael y gorau o’i addysg.
Rolau a Chyfrifoldebau
Mae gan bob partner rôl bwysig i’w chwarae wrth helpu eich plentyn neu berson ifanc i gyrraedd ei lawn botensial. Dysgwch am rolau a chyfrifoldebau pob partner.
Proses Partneriaeth
Gwyddom fod cynnwys rhieni yn addysg eu plant yn fanteisiol iawn i bawb. Dysgwch fwy am ein nod o’ch cefnogi a’ch cynnwys chi yn y broses bartneriaeth.
Goresgyn Rhwystrau
Mae cyfathrebu clir rhwng partneriaid yn agwedd hanfodol o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth. Yma cewch gyngor am oresgyn rhwystrau a dileu rhwystrau posibl i gyfathrebu.
Gweithio gydag Athrawon
Mae perthynas dda rhwng rhieni ac athrawon yn sicrhau bod plant yn derbyn y cymorth priodol yn yr ysgol. Dysgwch fwy am rannau allweddol y perthnasoedd hyn.