Cwestiynau A Ofynnir Yn Aml Gan Rieni

"Rwy'n meddwl bod gan fy mhlentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Beth alla i ei wneud?"

Os ydych yn pryderu am gynnydd eich plentyn:

  • Ydych chi wedi siarad ag ysgol eich plentyn am eich pryderon?
  • Ydych chi’n gwybod sut mae’r ysgol yn gweithio gyda phlant sydd o bosibl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol?
  • Ydych chi’n gwybod os yw eich plentyn ar un o gamau’r Cod Ymarfer ac, os ydyw, pa un?
  • Oes gan eich plentyn Gynllun Addysg Unigol (CAU) neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU)?
  • Gyda phwy ddylech chi siarad yn yr ysgol?

Y person cyntaf ddylech chi siarad â nhw yw athro dosbarth eich plentyn. Efallai y byddwch am wneud hyn yn ystod sesiwn ymgynghori i rieni neu y byddai’n well gennych wneud apwyntiad ar wahân i’w gweld.

"Rwy'n poeni'n arw am gynnydd fy mhlentyn. Mae hi'n cael trafferth gyda'i gwaith ysgrifenedig ac ymhell ar ol darllenwyr erail ei dosbarth. Beth alla i ei wneud?"

Mae pob plentyn yn wahanol wrth gwrs. Y peth cyntaf i’w wneud yw trefnu cyfarfod gyda’r athro dosbarth i drafod eich pryderon. Efallai y bydd yr athro dosbarth yn cysylltu â’r CADY (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) i drafod ac i benderfynu ar unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol y gallai fod gan eich plentyn.

Efallai y bydd yr athrawon yn gofyn am gymorth gan weithwyr proffesiynol arbenigol, er enghraifft, athrawon ymgynghorol, seicolegydd addysgol neu seicolegydd plant. Effallai y bydd eich plentyn yn cael ei asesu fel rhan o’r broses hon. Mae hyn er mwyn helpu i benderfynu ar y ffordd orau o’u cynorthwyo gyda’u dysgu.

Os yw eich plentyn yn gwneud cynnydd arafach nag y byddech yn ei ddisgwyl, neu bod yr athrawon yn darparu cymorth neu weithgareddau gwahanol yn y dosbarth, ni ddylech gymryd yn ganiataol bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig. Siaradwch â’r athro dosbarth; maen nhw’n barod i helpu bob amser.

"Sut fydd ysgol leol yn helpu fy mhlentyn?"

  • Drwy ‘wahaniaethu’ tasgau (h.y. symleiddio’r tasgau neu eu teilwra i allu eich plentyn);
  • Cynnig gwahanol ffyrdd o gofnodi gwybodaeth (e.e. labelu lluniau, diagramau neu siartiau);
  • Drwy ddefnyddio gweithgareddau aml-synhwyraidd;
  • Drwy rannu’r dysgu’n gamau bach hylaw;
  • Drwy helpu plant i drefnu eu gwaith ysgrifenedig gan ddefnyddio fframiau ysgrifennu;
  • Drwy ganiatáu amser ychwanegol i gwblhau tasgau;
  • Drwy gadw cyfarwyddiadau’n fyr ac yn glir;
  • Drwy ganmol ac annog y plentyn yn gyson eu cyflawniadau.

Efallai y bydd rhai plant yn gweithio gyda cynorthwyydd addysgu – cyn, yn ystod neu ar ddiwedd gwers. Fodd bynnag, dylai plant gael eu hannog i weithio’n annibynnol pan mae hynny’n bosibl.

"Pa fath o wybodaeth ddylai fod ar gael i Rhieni o Ysgol eu Plentyn?"

Dylai eich ysgol leol roi’r canlynol i chi:

Prosbectws

Fel arfer mae’r prosbectws yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am yr ysgol (e.e. pa bynciau sy’n cael eu hastudio, hyd y diwrnod ysgol, gwisg ysgol, gweithgareddau allgyrsiol, materion iechyd, ac ati).

Polisïau

Rhaid i ysgolion fod â datganiadau polisi ysgrifenedig ar faterion sy’n ymwneud â rhedeg yr ysgol yn effeithiol.

Cylchlythyrau

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn anfon cylchlythyrau rheolaidd at y rhieni yn rhoi gwybodaeth am fywyd yr ysgol (e.e. digwyddiadau a gweithgareddau, cau ysgolion ar gyfer hyfforddiant mewn swydd (HMS), newidiadau i’r staff, ac ati).

Adroddiadau disgyblion

Mae’n rhaid i ysgolion anfon adroddiad ysgrifenedig o leiaf unwaith y flwyddyn i rieni plant o oedran ysgol gorfodol. Dylai’r adroddiad yn esbonio cynnydd, cryfderau a gwendidau’r disgybl. Ni ddylid defnyddio adroddiad ysgol i godi materion difrifol am gynnydd eu plentyn gyda rhieni am y tro cyntaf.

Cofnodion ysgol eich plentyn

Fel rhiant, mae gennych hawl i weld cofnod addysgol eich plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth megis cofnodion o gyraeddiadau academaidd y disgybl yn ogystal â gohebiaeth gan athrawon, gweithwyr yr Awdurdod Lleol a seicolegwyr addysgol a gyflogir gan gorff llywodraethu’r ysgol. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth gan y plentyn a ganddoch chi fel rhiant. (Os ydych angen unrhyw wybodaeth am eich plentyn, dylech wneud cais yn ysgrifenedig i’r pennaeth).

Cofnodion eraill y gellir eu cynnwys:

Gall disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac sydd angen cymorth ychwanegol gan yr ysgol fod â Chynllun Datblygu (Addysg) unigol. Weithiau gelwir hwn yn gynllun weithredu oherwydd dylai ddisgrifio:

anghenion arbennig y plentyn;

  • sut mae’r ysgol yn bwriadu bodloni’r anghenion hynny a’r math o help sydd ar gael;
  • targedau i’r plentyn weithio tuag atynt;
  • sut bydd yr ysgol yn mesur llwyddiant a pa mor aml y caiff y cynllun ei adolygu.

Fe’i hystyrir yn arfer da ymgynghori â rieni ynglŷn â’r cynllun ac i’r cynllun gynnwys gwybodaeth am yr hyn y gall rhieni ei wneud gartref er mwyn atgyfnerthu’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol. Dylai ysgolion wahodd rhieni i fynychu adolygiad o’r cynllun.

Cytundebau Cartref-Ysgol

Rhaid i bob ysgol gael Cytundeb Cartref/Ysgol sy’n egluro nodau a gwerthoedd yr ysgol ac yn nodi cyfrifoldebau’r disgyblion, y rhieni a’r ysgol o ran pethau fel:

  • cynnal disgyblaeth ac ymddygiad cadarnhaol;
  • presenoldeb rheolaidd;
  • gwaith cartref;
  • cynnal amgylchedd dysgu cadarnhaol a hapus;
  • ymrwymiad yr ysgol i’w disgyblion;
  • yr hyn a ddisgwylir gan rieni a disgyblion.

Mae nosweithiau rhieni/ymgynghoriadau yn gyfle i edrych ar waith eich plentyn ac i drafod cynnydd gyda’r athro/athrawon. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn cael eich cyfyngu i sesiwn 5 neu 10 munud gyda’r athro ac os oes gennych lawer i’w drafod efallai y byddai’n ddefnyddiol:

  • ysgrifennu at yr athro cyn y cyfarfod yn nodi’r materion yr hoffech eu trafod, neu
  • ofyn am apwyntiad ar wahân er mwyn caniatáu mwy o amser trafod.

"Beth yw'r Cod Ymarfer AAA?"

Mae Cod AAA ymarfer, a gyhoeddwyd yn 1994 (ac a ddiweddarwyd yn 2000) yn rhoi canllawiau a chyngor ymarferol i Awdurdodau Lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar ac eraill ar sut i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Addysg 1996.

Nid yw pob plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yr un fath, felly mae’r Cod Ymarfer yn datgan bod ymateb graddedig ar gyfer diwallu eu hanghenion.

Mae gan pob Awdurdod Lleol, ysgol, lleoliad blynyddoedd cynnar a’r rhai sy’n eu helpu (sy’n cynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol), ddyletswydd i “roi sylw” i’r Cod Ymarfer. Mae hyn yn golygu na allant ei anwybyddu. Mewn geiriau eraill, er nad oes raid i ysgolion, Awdurdodau Lleol ac eraill wneud popeth yn union fel yr awgrymir yn y Cod, mae’n rhaid iddynt allu cyfiawnhau pam eu bod yn teimlo’u bod yn well i wneud pethau’n wahanol.

Mae’r egwyddorion sylfaenol a ganlyn yn sail i’r canllawiau a geir yn y Cod:

  • Dylai anghenion plentyn sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gael eu diwallu
  • Fel rheol caiff Anghenion Dysgu Ychwanegol plant eu diwallu mewn ysgolion neu sefydliadau prif ffrwd
  • Fylid ceisio barn y plentyn a’i chymryd i ystyriaeth
  • Mae gan rieni rôl holl bwysig i’w chwarae i gefnogi addysg eu plentyn
  • Dylid cynnig cyfle llawn i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i gael addysg eang, gytbwys a pherthnasol, gan gynnwys cwricwlwm addas ar gyfer y cyfnod sylfaen a’r cwricwlwm cenedlaethol

Cefnogaeth Leol yng Ngorllewin Cymru